Cynhaliwyd Sioe gyntaf Llanfair a'r Cylch nol yn 1891ac yna hyd 1939 cafodd ei ohirio oherwydd yr Ail Ryfel Byd.
Ail ddechreuwydd yr adran Garddwriaeth a Celf a Chrefft yn 1962 a cafodd ei gynnal yn flynyddol yn yr Institiwt hyd 1972.
A'r 30ain o Ebrill 1973 galwyd cyfarfod cyhoeddus gan y diweddar Robert Jones, Pentre i weld os oedd cefnogaeth mewn ail-sefydlu Cymdeithas Amaethyddol a Garddwriaeth Llanfair Caereinion a'r Cylch, fel ei gelwir hyd heddiw. Roedd y gefnogaeth yn unfrydol a chynhaliwyd y Sioe gyntaf ar Gae Mownt ar ddydd Sadwrn, 3ydd o Fedi 1973.
Gyda llwyddiant y Sioe a rhagolygon y byddai yn tyfu fe symudwyd i gaeau Pentre yn 1974 lle y bu hyd 1994.
Fe ddaeth Treialon Cwn Defaid yn rhan o'r Sioe yn 1986 a chystadleuaeth Cneifio in 1987, sydd nawr wedi newid i'r gystadleuaeth cyffrous Cneifio Cyflym.
Symudwyd y sioe i faes Mathrafal yn 1995 ac yn 1997 fe ddathlwyd 25 o flynyddoedd ers ei ail-sefydlu.
Yn anfoddus yn 2001 fe gafodd y clwy Traed a'r Genau effaith enfawr ar yr ardal a bu rhaid gohirio y Sioe.
Yn 2005 cysylltwyd a'r pwyllgor i holi a oedd modd defnyddio y babell fawr i gynnal Cinio Sul Elusenol, ac erbyn hyn mae wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol gan godi llawer o arian i bob math o elusenau dros y blynyddoedd.
Gyda newidiadau polisi ffermio ym Mathrafal yn 2010 bu rhaid edrych am safle newydd ac roedd pwyllgor y sioe yn ddiolchgar iawn i deulu Tudor am rhoi caniatad i ddefnyddio caeau Llysun, Llanerfyl, ble mae'r sioe wedi barhau i dyfu.
Yn 2020 a 2021 bu rhaid gohirio y sioe oherwydd pandemig Covid a gafodd gymaint o effaith ar bob digwyddiad cyhoeddus. Ond o'r diwedd yn 2022 roeddem yn gallu cynnal sioe eto, ond heb adran y gwartheg oherwydd cyfyngiadau TB. Er na fu sioe am ddwy flynedd cafwyd sioe llwyddiannus iawn.
Ac nawr yn Sioe 2023 byddwn yn dathlu 50 mlynedd ers i'r sioe gael ei ail-sefydlu nol yn 1973. |